
Ar gyfer Wythnos Brofi Ewrop, mae Fast Track Caerdydd a’r Fro yn lansio ei hymgyrch ‘Ydych chi’n Gwybod?’ gyda’r nod o gynyddu profion HIV yng Nghymru a chodi ymwybyddiaeth o’r ffeithiau am HIV i ddileu stigma.

GWYBODAETH AM WYTHNOS BROFI
Mae Wythnos Brofi Ewrop yn ymgyrch chwe-misol sy’n annog grwpiau partner mewn sefydliadau cymunedol, gofal iechyd a pholisi ledled Ewrop i uno am wythnos ddwywaith y flwyddyn i gynyddu ymdrechion profi a hyrwyddo ymwybyddiaeth o ran manteision profi cynharach ar gyfer hepatitis a HIV. Mae’r fenter hon, a ddechreuwyd yn 2013, wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad a gydnabyddir yn eang gyda channoedd o sefydliadau’n cymryd rhan bob blwyddyn. Gall eich sefydliad gofrestru’n swyddogol i gymryd rhan yn Wythnos Profi Ewrop yma.

WYTHNOS BROFI YNG NGHYMRU
Gwyddom fod gan Gymru gyfradd uwch o stigma HIV a diagnosis HIV hwyr na llawer o’r DU. Gwyddom hefyd fod y pecyn profi post sydd newydd ei gyflwyno yn cynyddu ffigurau profi yn sgil y pandemig COVID-19; ac mae gennym gyfle i ddangos yr effaith y mae hyn wedi’i chael ac annog mwy o bobl i gael prawf.
Gwyddom fod gwybodaeth anghywir neu gamsyniadau yn chwarae rhan fawr mewn stigma HIV a gallan nhw fod yn rhwystr i gael prawf. Yn ystod yr Wythnos Brofi yma, rydym yn annog pobl i gwestiynu eu dealltwriaeth o’r ffeithiau er mwyn eu haddysgu a’u hysbysu am y cymorth sydd ar gael.
Gallwch ddarllen mwy am HIV yng Nghymru yn ein hadroddiad yma.

CYMRYD RHAN
Yn ystod yr Wythnos Brofi byddwn yn lansio ein hymgyrch ‘Ydych chi’n Gwybod?’ fel ffordd o ofyn i bobl a ydynt yn gwybod eu statws HIV ac a ydynt yn gwybod ffaith am HIV.
Gallwch lawrlwytho ein matrics negeseuon llawn a’n hasedau yma.
Byddwn yn postio ar Facebook, Twitter ac Instagram ac rydym yn annog sefydliadau ledled Cymru i gymryd rhan. Os ydych yn cynrychioli sefydliad o’r fath gallwch lawrlwytho ein brîff ymgyrchu yma.
FFEITHIAU ALLWEDDOL
· Gwybod eich statws HIV yw’r cam cyntaf tuag at amddiffyn eich hun ac eraill. Byddwch yn falch i wybod eich un chi.
· Dydy profion HIV yng Nghymru erioed wedi bod yn haws. Archebwch eich pecyn prawf post cyfrinachol am ddim heddiw yn bit.ly/HIVWales
· Gall unrhyw un gael HIV. Nid yw wedi’i gyfyngu i unrhyw un rhywioldeb, hil, crefydd na rhywedd. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb os ydym wedi cael rhyw i gael ein profi a gwybod ein statws.
· Gall diagnosis hwyr achosi niwed parhaol i’ch iechyd ac mae’n cynyddu’r risg o drosglwyddo HIV i eraill o ganlyniad i beidio â gwybod eich statws. Peidiwch ag aros i gael prawf.
· Gyda thriniaeth HIV fodern gallwch fyw mor hir ag unrhyw un arall, ond ni allwch gael eich trin os nad ydych yn gwybod eich statws.
· Os ydych yn cael rhyw, nawr mae yna driniaeth (PrEP) fydd yn eich atal rhag cael HIV ac sydd bellach ar gael yn eang o glinigau iechyd rhywiol ledled Cymru.
